Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn rheoli asedau
Mae digwyddiadau’n ymwneud â lleithder a llwydni ac argymhellion yr Adolygiad Gwell Tai Cymdeithasol wedi dangos canlyniadau trychinebus methiannau system a phwysigrwydd cyflwyno gwasanaethau nad ydynt yn gwahaniaethu. Bydd y sesiwn sbotolau yma gyda Alicja Zalesinska o Tai Pawb yn ymchwilio sut y gallwch gymryd ymagwedd ragweithiol at arferion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn eich gwasanaethau rheoli asedau.
Bydd y sesiwn yn rhoi sylw i:
- Ystyriaethau allweddol wrth adolygu eich gwasanaethau rheoli asedau
- Pryd a sut i ddefnyddio Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb
- Adnabod a thrin anghydraddoldeb strwythurol
- Ymwreiddio diwylliant o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- Monitro effaith