Pam fod cymdeithasau tai yn bwysig?
Gyda neges ‘Arhoswch gartref!’ wedi’i saernïo ar ein meddyliau, mae pandemig Covid-19 wedi amlygu rôl hanfodol ‘cartref’ ym mywyd pawb ohonom. Roedd ein cartrefi yn cynrychioli rhywle diogel, cysurus a saff i wynebu storm y pandemig. Rhywle oedd yn addasu i’r newid yn ein hanghenion. Rhywle yn gysylltiedig gyda’n gwaith, addysg, mynediad i wasanaethau cyhoeddus a’n gilydd.
Nid yw ‘Cartref’ erioed wedi golygu mwy. Ond nid yw hyn yn wir am bawb. Mae gan gymdeithasau tai Cymru weledigaeth ar gyfer Cymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb.
Mae cartref da, gyda’r gefnogaeth gywir lle mae ei angen, yn hanfodol ar gyfer pob person, neu deulu, beth bynnag eu hamgylchiadau.
Beth mae cymdeithasau tai yn ei wneud?
Eu diben creiddiol yw darparu tai fforddiadwy ar gyfer y rhai sydd eu hangen. Mae cymdeithasau tai yn gweithio’n agos gyda chynghorau lleol i ddarparu cartrefi, sy’n cyfrannu at ddod â digartrefedd i ben.
Mae cymdeithasau tai hefyd yn buddsoddi mewn cymunedau, yn aml yn gweithio mewn partneriaeth i adfywio ardaloedd lleol a chreu swyddi a chyfleoedd hyfforddiant. Mae 85 ceiniog ym mhob punt a werir gan gymdeithas tai yng Nghymru yn aros yng Nghymru.
Ond maent hefyd yn darparu mwy na brics a morter. Mae saith o gymdeithasau tai Cymru yn darparu gwasanaethau gofal cofrestredig, tebyg i gartrefi gofal a gofal yn y cartref..
Mae mwyafrif y cymdeithasau tai yng Nghymru yn darparu tai a chymorth a llety. Gall hyn gynnwys tai gwarchod a gofal ychwanegol ar gyfer pobl hŷn, hostelau a llochesi ar gyfer pobl ddigartref a rhai sy’n ffoi rhag cam-drin domestig yn ogystal â llety ar gyfer pobl gydag anghenion cymorth tebyg i afiechyd meddwl ac anableddau dysgu.
Er mai tai cymdeithasol yw mwyafrif helaeth stoc cymdeithasau tai, mae tua deg y cant o’u cartrefi yn cynnwys eiddo ar brydles, eiddo rhanberchnogaeth i helpu pobl i brynu eu cartref cyntaf, a llety myfyrwyr.
Sut maent yn gweithio?
Mae cymdeithasau tai yn fusnesau cymdeithasol annibynnol. Cânt eu harwain gan fwrdd sy’n atebol am osod cyfeiriad strategol y busnes.
Caiff cymdeithasau tai eu rheoleiddio gan Lywodraeth Cymru sy’n rhoi dyfarniadau rheoleiddio rheolaidd ar eu perfformiad. Caiff cymdeithasau tai sy’n darparu gwasanaethau gofal cofrestredig, tebyg i gartrefi gofal a gofal yn y cartref, hefyd eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer y gwasanaethau hyn.
Mae rhai cymdeithasau tai yn gweithredu mewn un ardal awdurdod lleol yn unig tra bod eraill yn gweithio mewn nifer o ardaloedd ledled Cymru.
Beth yw eu heffeithiau?
Fel busnesau cymdeithasol, mae cymdeithasau tai ynddi am yr hirdymor ac yn buddsoddi yn y lleoedd a’r cymunedau y gweithredant ynddynt.
Yn 2019/20, gwariodd cymdeithasau tai £1.3 biliwn yn uniongyrchol yn economi Cymru.
Mae’r sector yn cyflogi dros 10,000 o bobl (cyfwerth ag amser llawn) yn uniongyrchol ac am bob un person a gyflogir gan gymdeithas tai, caiff 1.5 o swyddi eraill eu cefnogi mewn man arall yn yr economi.
Mae cymdeithasau tai yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau adfywio cymunedol, gan ddarparu cefnogaeth a gwasanaethau mewn cynhwysiant digidol, tlodi tanwydd, cynhwysiant ariannol a chyflogadwyedd, hyfforddiant a sgiliau.
Yn 2018/19, gwariodd cymdeithasau tai yng Nghymru fwy na £2.5 miliwn ar wasanaethau cynhwysiant ariannol yn y gymuned.
Yn 2018/19, derbyniodd 4,565 o bobl hyfforddiant cyflogadwyedd a sgiliau, gyda 66% ohonynt yn denantiaid cymdeithasau tai.
Sut y caiff cymdeithasau tai eu cyllido?
Mae cymdeithasau tai yn fusnesau cymdeithasol annibynnol. Derbyniant fwyafrif eu cyllid mewn tair ffordd:
- Benthyca preifat: mae gan gymdeithasau tai fynediad i £3 biliwn o fenthyca preifat i fuddsoddi mewn cartrefi a gwasanaethau mewn cymunedau lleol.
- Cyllid Llywodraeth: mae cymdeithasau tai yn gymwys i gael mynediad i ffrydiau cyllid Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, cafodd cymdeithasau tai £241 miliwn o Grant Tai Cymdeithasol yn 2019 i gefnogi adeiladu miloedd o gartrefi newydd. Mae cymdeithasau tai yn buddsoddi eu hadnoddau eu hunain i ategu’r grant a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a chynyddu i’r eithaf y nifer o gartrefi a gaiff eu hadeiladu.
- Rhent: mae tenantiaid yn talu rhent i’r gymdeithas tai am gael byw yn eu cartrefi. Mae cymdeithasau tai yn ymroddedig i osod rhenti a thaliadau gwasanaeth sy’n fforddiadwy i denantiaid. Mae’r sector yn cymryd mater fforddiadwyedd yn ddifrifol iawn ac mae landlordiaid cymdeithasol yn ystyriol i beidio rhoi baich ariannol gormodol ar denantiaid. Mae cymdeithasau tai yn cynnal asesiadau cynhwysfawr bob blwyddyn sy’n rhoi fforddiadwyedd ar gyfer tenantiaid wrth graidd eu hystyriaethau wrth benderfynu ar lefelau rhent. Gallwch ganfod mwy am ein gwaith ar fforddiadwyedd yma.
Gallwch ganfod mwy am gyllid cymdeithasau tai yn ein cyhoeddiad Cyfrifon Cynhwysfawr – cyfrifon archwiliedig cyfunol pob cymdeithas tai yng Nghymru.